O tyred, Iôr tragwyddol, Mae ynot ti dy hun Fwy moroedd o drugaredd Nag a feddyliodd dyn: Os deui at bechadur, A'i godi ef i'r lan, Ei galon gaiff, a'i dafod, Dy ganmol yn y man. Gwaredu'r saint rhag uffern A phechod drwg ei ryw, O safn y bedd ac angau, A'u dwyn i fynwes Duw, Eu harwain dros fynyddoedd, A thrwy yr anial chwith, A grea nef y nefoedd Yn gân heb ddiwedd byth.William Williams 1717-91
Tonau [7676D]: gwelir: Pa dduw ymhlith y duwiau? |
O come, eternal Lord, There are in thyself Greater seas of mercy Than man has thought: If thou shouldst come to a sinner, And raise him up, His heart may have, and his tongue, Thy praise-song soon. Delivering the saints from hell And sin of a wicked kind, From the jaws of the grave and death, And taking them to God's breast, Leading them across mountains, And through the sinister desert, Which creates the heaven of heavens In a song without ever an end.tr. 2008 Richard B Gillion |
|